picture of water ripples

Croeso

Croeso i wefan Eifion Lewis.
Rwyf yn gweithio yn Abertawe ers 2005 ac nawr yn Gorseinon a Caerfyrddin hefyd. Mai Osteopathi yn driniaeth cyfannol am y corff, a mae peth gwybodaeth ar y wefan hon. Hefyd gallwch siarad gyda fi a gofyn y cwestiynnau sydd ar eich meddwl.

Pa help y gall Osteopathi ei roi?

Gall helpu gyda phoen, anesmwythyd a/neu ddiffyg symudiad unrhyw le yn y corff, yn enwedig yn:
- y cefn
- y gwddf
- y pelfis
- yr ysgwyddau

Hanes Osteopathi

Ar ddiwedd yr19fed ganrif, yr oedd meddyg yn America, Andrew Taylor Still a welodd llawer o ddoddefaint yn y wlad o ganlyniad i'r Rhyfel Cartref. Wedi marw dau o'i blant, penderfynnodd Dr Still bod yn rhaid cael gwell meddygaeth na'r un ar y pryd. Astudiodd y corff dynol (anatomeg, sef gwedd neu ffurf y corff) ac astudiodd ffisioleg, ( sef gwaith y corff) a gwelodd bod cysylltiad rhwng y ddau. Gwelodd bod gwedd y corff yn effeithio gwaith y corff a'r gwaith yn effeiffio'r wedd. Y berthynas hon rhwng gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yw un o elfannau pwysicaf osteopathi.
Y Dr JM Littejohn a gyflwynodd osteopathi i Brydain ar ddiwedd y 20fed ganrif.

Triniaeth Osteopathig

Wedi gweld y berthynas, bu Dr Still yn creu ddulliau o weithio ar y corff fel bo gwedd a gwaith, gwaith a gwedd yn helpu ei gilydd. Sylweddolodd bod perthynas rydd rhwng unedau o'r corff, yn arbennig gydag asgwrn y cefn, yn bwysig fel y gallai y nerfau rhwng y pen a'r corff, wneud eu gwaith heb rwystr. Mae Osteopathi yn cynnig llawer techneg yn y maes hwn. Byddaf fi yn defnyddio:
Trolio
Troi uniad tyn yn ofalus, nes iddo symud yn rhydd ac yn rhwydd.
Gwthiad Osteopathig
Gwthiad bur a pendant er mwyn rhyddhau y stiffrwydd.
Gweithio ar y cyhiriau
Defnyddio tylino neu ymestyn i rhyddhau cyhiriau tyn. Mae technig arbennig fel TEC ( Techneg Egni'r Cyhyr) yn galli fod yn effeithiol iawn.
Tensiwn Cydbwysedd y Giau (TCG)
Mae TCG yn ffordd dyner o weithio ar y giau er mwyn adfer cydbwysedd priodol.

Gorseinon

D'wyn gweithio yn Gorseinon nawr yn Horizon Therapy Centre, y cyfeiriad yw
12a Alexandra Road
Gorseinon
SA4 4NW
-dros ben banc Barclay's ac nesag at Sainsbury's.

Caerfyrddin

Carmarthen Osteopaths, 56 Little Water St, Carmarthen

D'wy wedi symud nawr o siop yr Aardvark , i'r clinic newydd yn 56 Little Water Street, rhwng maesydd parcio St Peter's a John Steet (ty nol i Marks and Pencers). Felly mai parcio yn rhwydd.
Mae'r lliw glas yn rhwydd i weld, hyd yn oed o Marks and Spencers.

Dyma ni ar fap:
Map of Carmarthen Osteopaths, 56 Little Water St., Carmarthen

Beth yw y gost?

Bydd y sesiwn cyntaf yn cymryd tuag tri-chwarter awr.
Bydd apwyntiadau dilynol yn canoli ar asesiad a thriniaeth; cymer hwn tua 30 munud.
Mae'r ffi yn £35 y sesiwn.

Cysyllatu â mi

Apwyntiad ar y ffôn: 07515 107878 neu 01267 223233
Apwyntiad Ebost : eifion.lewis@osteotaff.co.uk

Diolch am alw